Rhwng gwyn a du PDF Print E-mail

clawr rhwng gwyn a du1. Twyllo dy hun
2. Un gusan

3. O ddrwg i waeth
4. Lle mae hi nawr?
5. Y Pysgotwr
6. Rhwng gwyn a du
7. Aros am wyrth

Dyddiad rhyddhau / Release date - 01/12/09

Record sy'n dathlu bywyd yn ei holl ogoniant

‘Nid yw popeth yn ddu a gwyn’, yn ôl yr hen ddywediad.  Mae 'na lwyd o hyd yn y canol sy'n cynrychioli'r cymlethdodau a'r rhyfeddodau sy'n gwneud ein byd yn lle mor ddiddorol i fyw ynddo.  Dyma yw'r neges

a'r ystyr y tu ôl i deitl crynoddisg newydd yr artist Ynyr Llwyd, ‘Rhwng Gwyn a Du’, sydd yn cael ei rhyddhau gan Recordiau Aran ddechrau Rhagfyr.
Cafodd ei CD gyntaf, ‘Cilfach’, oedd yn cynnwys casgliad o faledi swynol gyda'r piano, ymateb gwresog iawn y flwyddyn ddiwethaf.  Ond y tro hwn, mae Ynyr yn dangos sawl agwedd arall i’w ddoniau fel cyfansoddwr a chanwr, drwy gyflwyno casgliad o draciau newydd, ffres sydd yn gymysgedd o gerddoriaeth bywiog a chaneuon sy'n swyno'r glust.
“Dwi'n awyddus iawn i ddangos fy mod yn hyblyg fel cerddor ac yn barod i ganu mewn sawl arddull amrywiol.  Gan mai baledi gyda’r piano oedd ar y CD gyntaf, y tro hwn roeddwn i eisiau creu rhywbeth mwy cyffrous a thrawiadol er mwyn ceisio ymestyn at bob math o gynulleidfa", meddai Ynyr.
Mae gwerth bywyd ar flaen meddwl Ynyr ar hyn o bryd oherwydd iddo gael damwain car go frawychus ar yr M56 tra’n teithio i gyngerdd yn ddiweddar.   “Ro'n i'n hynod o lwcus o allu cerdded i ffwrdd o'r llanast”, meddai, “roedd y car wedi malu’n rhacs”.  Mae ganddo lawer iawn o deithio i’w wneud ar hyn o bryd gan ei fod yn canu efo ‘function band’ ar hyd a lled Prydain, ac weithiau dramor hefyd.
“Fues i’n Dubai yn ddiweddar yn canu, a dwi'n ffodus iawn o gael mynd yn ôl yno dros y Flwyddyn Newydd i ganu yn y gwesty saith seren, Burj Al Arab!   Mae’r gwaith yn ddiddorol ac yn sicr wedi cryfhau ac ymestyn fy llais, ond dwi'n gwybod rwan fod angen gofal mawr wrth deithio ar y priffyrdd mewn tywydd garw!"  
Digwyddodd y ddamwain yn ystod y cyfnod recordio, ac felly mae’r agwedd bositif, fywiog sy'n treiddio drwy’r CD yn adlewyrchiad teg o agwedd Ynyr at fywyd wedi’r digwyddiad.  “Mae profiad o'r fath yn gwneud i rywun werthfawrogi'r pethau bach cymaint mwy.  Dwi'n hapus iawn gyda'r grynoddisg newydd ar ôl yr holl waith caled sydd wedi mynd i fewn i'w chreu hi”, meddai.  
Does dim amheuaeth fod Ynyr yn gerddor hyd at flaen ei fysedd, gan iddo ennill cystadleuaeth cyfansoddi carol ar gyfer Cyngerdd Nadolig Llangollen eleni.  Yn wir, mae'n dechrau dod i'r amlwg fel un o brif dalentau cerddorol ifanc Cymru, a bydd ei grynoddisg newydd "Rhwng Gwyn a Du" yn rhan allweddol o'i lwyddiant.







http://www.myspace.com/ynyrllwyd


http://www.facebook.com/pages/Ynyr-Llwyd/28150684373


http://www.youtube.com/watch?v=G0TjY3GjYPM

Record celebrates life in all it's glory


'Not everything's black and white' as the saying goes. There's a grey area that represents the complexity and the richness that makes our world such an interesting place. That's the message behind the title of a new CD by Ynyr Llwyd, 'Rhwng gwyn a du' (Between black and white), that is being released by Aran Records on December the 1st.
His first CD, entitled 'Cilfach', included a number of beautiful piano ballads, and received a warm reception last year. This time Ynyr displays several other aspects of his abilities as a singer-songwriter with a collection that is a mixture of lively, exciting tracks together with some more melodious, contemplative songs.
“I'm keen to display that I'm a versatile musician and that I offer songs in several different styles. As the first CD was predominantly made up of piano ballads, this time I wanted to create something a bit more exciting and striking in the hope of extending my appeal to a wider audience”, says Ynyr.
Ynyr was made very aware of the value of life recently when he was involved in a serious car accident on the M56 whilst travelling to a gig. “I was really lucky to be able to walk away from the wreckage”, he says, “the car was completely destroyed”. He has a great deal of travelling to do at the moment as he sings for a 'function band' in engagements that take him all over Britain and occasionally abroad.
“I was signing in Dubai recently, and I'm lucky enough to be going back there over the New Year to sing in a seven star hotel, the Burj Al Arab! It's interesting work and it's certainly strengthened and extended my voice, but I now know how much care needs to be taken when travelling the motorways in poor weather!”
The accident happened whilst Ynyr was stil in the middle of recording the album, and it's positive, aspirational nature is a fair reflection of Ynyr's feelings at the moment. “An experience like that definitely makes you appreciate things a lot more. I'm very happy with the new CD, after all the hard work that's gone into it's creation”, he says.
There can be no doubt that music really runs through Ynyr's veins, as he recently won the carol writing competition for this year's Llangollen Xmas Concert. Indeed, he's beginning to emerge as a major young Welsh talent, and “Rhwng Gwyn a Du” will certainly play a key part in his success.