Home Artistiaid / Artists Dewi Pws Ffrindiau'r Wyddor
Ffrindiau'r Wyddor PDF Print E-mail

ffrindiau'r wyddor clawr

 30 o ganeuon i hyrwyddo llythrennedd trwy’r cyfnod sylfaen (3 i 7 oed)
 gyda Dewi Pws, Elin Llwyd, Emyr Gibson a Siân James
 traciau cefndir heb lais
 CD aml gyfrwng – copi o eiriau’r caneuon a’r gerddoriaeth ar gael trwy osod y CD mewn cyfrifiadur


30 songs based on the letters of the Welsh alphabet, promoting literacy in the foundation stage - ages 3 to 7 years





1. Arthur yr Arth
2. Ben Broga
3. Cledwyn y Clown
4. Chwit-Chwat Chwilen
5. Daniel Draenog
6. Y Ddraig Ddel
7. Elis yr Eliffant
8. Falyri y Falwen
9. Ffion y Fflamingo
10. Gari Gorila
11. Fy Ngafr
12. Henri Hipo
13. Iola'r Iar
14. Jim Jiraff
15. Lowri Lindys
16. Llywelyn y Llew
17. Mici'r Mwnci
18. Neli Neidr ydw i
19. Olwen yr Octopws
20. Penri y Parot
21. Brenhines ydy Phyllis
22. Robin Robot
23. Rhodri Rhino
24. Sali Seren
25. Sioncyn bach y gwair
26. Twm Teigr
27. Bore da Thelma
28. Urien yr Udfil
29. Wil Wirion
30. Ynyr yr Ysgyfarnog

Prynwch copi caled / Buy a copy via mail order -

FFRINDIAU'R WYDDOR

ARAN 401

Dewch i ganu a chwarae gyda....

Ffrindiau’r Wyddor ARAN401

yng nghwmni Dewi Pws, Siân James, Emyr Gibson ac Elin Llwyd

Dyma C.D. newydd sbon!! Casgliad o ganeuon amrywiol sy'n cyflwyno llythrennau'r wyddor Gymraeg mewn modd ysgafn, syml a hwyliog. Mae pob llythyren yn gysylltiedig a chymeriad arbennig ac mae'r alawon a’r geiriau ynghyd â'r cyfeiliant lliwgar yn fodd cyffrous i blant ddod yn gyfarwydd a'r llythrennau i gyd. Mae cyfle hefyd i wrando ar yr alawon heb y geiriau. Cyfle da felly i symud, dawnsio a bod yn greadigol. Mae'n gyfle hefyd ir plant ganu yn unigol, mewn grp neu berfformio ar y cyd gyda theulu, ffrindiau neu athrawon.

Gan fod y C.D. yn un aml gyfrwng, gellir ei gosod mewn cyfrifiadur, a dim ond i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar y clawr gallwch gael copi o'r geiriau a'r gerddoriaeth.

Ysgrifennwyd y geiriau a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gwenfydd Williams yn ystod ei chyfnod yn Athrawes Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Dewi Sant y Rhyl. Roedd y plant bob amser yn canu, symud, dawnsio a chael sbort a dywed Gwenfydd ei fod yn gyfle a dull llwyddiannus iawn i ddysgu iaith, yn enwedig felly i blant oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Roedd y plant yn mynegi eu hunain gyda'r gerddoriaeth ac yn cofio synau'r llythrennau wrth chwarae a chanu gyda chymeriadau'r caneuon. Defnyddiwyd y caneuon wedyn i greu cynllun "Ffrindiau'r Wyddor" ac ychwanegwyd storïau at y caneuon. Erbyn hyn defnyddir y cynllun mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru i ddatblygu iaith, llythrennedd a sgiliau ysgrifennu yn y Cyfnod Sylfaen.

Erbyn hyn mae Gwenfydd yn Athrawes Ymgynghorol gyda'r Tîm Cyfnod Sylfaen yn Sir Ddinbych ac yn argyhoeddedig fod dysgu trwy chwarae, symud, cymeryd rhan weithredol a chael hwyl, yn rhan allweddol a hanfodol o ddatblygiad pob plentyn. Dyma reswm da felly i recordio'r caneuon o'r newydd gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael mewn stiwdio fodern.

Caiff y trefniadau newydd yma eu canu gan gantorion adnabyddus sy'n rhoi bywyd newydd i'r cymeriadau diddorol a direidus. Hoffai Gwenfydd ddiolch yn fawr i'r cantorion am eu cyfraniad gwerthfawr ac i Emyr yn Recordiau Aran. Dywed Gwenfydd "Rhaid sicrhau fod y plant yn cymryd rhan weithredol wrth ddysgu'r wyddor a gwrando ar y caneuon, felly rhaid oedd cael cantorion a oedd yn gallu portreadu a chyfleu'r hiwmor er mwyn cynnal diddordeb y plant. Mae Cledwyn y Clown a Faleri y Falwen yn hen ffrindiau i mi erbyn hyn, a rwy'n gobeithio ran y byddant yn ffrindiau gorau i lawer o blant, rhieni, teuluoedd ac athrawon hefyd. Pob hwyl ar y canu a'r chwarae."



Come to sing and play with....

Ffrindiau’r Wyddor (Alphabet Friends) ARAN401

with Dewi Pws, Siân James, Emyr Gibson and Elin Llwyd

Here is a brand new CD for young Welsh learners!! A collection of songs that introduce the letters of the Welsh alphabet in a light, simple and fun style. Each letter is associated with a certain character and the melodies and the words together with the colourful accompaniments combine to produce an exciting way for children to learn the entire alphabet. There is also an opportunity to listen to the songs without the words. This provides the opportunity for movement, dancing and other creative tasks. The children can sing the songs either individually, in groups or sing along with family, friends and teachers.

As this is a mixed media CD, it can also be placed into a computer, where the CD-ROM portion provides access to copies of all the words and the music.

The words and music were written by Gwenfydd Williams during her time as an Early Years Teacher at Ysgol Dewi Sant, Rhyl. The children were always singing, moving, dancing and having fun and Gwenfydd recalls that it was an excellent way of teaching Welsh, especially for children who were learning Welsh as a second language. The children were always expressing themselves through the music and remembered the sounds of the letters by playing and singing along with the characters from the songs. The songs were then used to create a wider “Ffrindiau’r Wyddor” project where stories were added to the songs. By now this project is used in schools across Wales to develop language and literacy skills in the Foundation Stage.

Gwenfydd is now an Advisory Teacher with the Foundation Stage Team for the county of Denbigh. She’s convinced that teaching through play, movement, taking part and having fun is a fundamental part of each child’s development. What better reason therefore to rerecord these songs using all the facilities a modern studio has to offer.

These new arrangements are sung by prominent popular singers that give new life to the lively, comical characters in the songs. Gwenfydd would like to thank each of the singers for their valuable contribution and also Emyr Rhys at Aran Records. “It’s important that the children play an active part in learning the alphabet and singing the songs” says Gwenfydd, “so it was important that we had signers who could convey humour and maintain the children’s interest. Cledwyn the Clown and Mickey the Monkey are old friends to me, but I hope that they will now become friends with many children, parents, families and teachers also. Enjoy yourselves through singing and playing.”