|
Criw o saith o bobl ifanc byrlymus o Ddyffryn Clwyd ydy ‘Enfys’ sydd yn canu gyda’i gilydd bellach ers bron i ddwy flynedd. Maent i gyd yn ddisgyblion i’r gantores Leah Owen ac yn cael gwersi lleisiol ganddi ers blynyddoedd. Fel arbrawf, daeth Leah â’r saith at ei gilydd i gynnal cyngerdd Nadolig yn 2007, ac yn wir roedd yr ymateb iddynt mor wresog fe benderfynwyd cario ’mlaen. Yn dilyn hynny, daeth Ynyr Llwyd, mab Leah, i gydweithio ag Enfys. Cyfansoddodd sawl cân ar eu cyfer, ac roedd hi’n amlwg fod yr arddull newydd yn gweddu i’r gr w p. Erbyn hyn, mae Ynyr yn rhan bwysig o ‘Enfys’ - yn cyfeilio a chyfansoddi ar eu cyfer. Dewiswyd yr enw ‘Enfys’ arnynt am sawl rheswm. Yn gyntaf, oherwydd fod saith ohonynt, ac yn ail oherwydd fod lliw arbennig i bob llais, sydd wrth gyd-ganu yn creu cyfanwaith bendigedig. Maent hefyd yn gymeriadau cryf sy’n cyd-dynnu ac yn mwynhau cynnal cyngherddau ledled Cymru. Maent wedi bod yn hynod o brysur yn diddori cynulleidfaoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi ymddangos ar Wedi 7 a’r Noson Lawen.
Wrth ryddhau ei record sengl dwy drac ar i-tunes, mae ‘Enfys’ yn gobeithio cyrraedd cynulleidfaoedd radio, hefyd. Cafodd ‘Dros y dwr’ a ‘Dagrau’ eu ysgrifennu gan Ynyr Llwyd i eiriau ei chwaer, Angharad. Ac mae’r cysylltiadau teuluol ym mhobman gan fod yna ddwy bâr o chwiorydd yn y grwp
| Enfys |
|
|

|
(rhes gefn, o’r chwith i’r dde) Jade Davies, Steffan Hughes, Bethany Juckes Hughes (rhes flaen, o’r chwith i’r dde) Mared Thomas, Leah Thomas, Amber Davies ac Angharad Rowlands
(back row, from left to right) Jade Davies, Steffan Hughes, Bethany Juckes Hughes (front row, from left to right) Mared Thomas, Leah Thomas, Amber Davies and Angharad Rowlands
|
|
1. Dros y dwr
2. Dagrau
Ynyr ac Angharad Llwyd © Aran
ar gael o
|
|
|
‘Enfys’ are seven lively young people from Dyffryn Clwyd that have been singing together for nearly two years. As pupils of the singer Leah Owen, they’ve all received singing lessons with her from an early age. It was as an experiment that Leah brought the seven of them together for a Christmas concert in 2007. The result was so succesful, and the reaction so enthusiastic, that they decided to carry on. Following this, Leah’s son, Ynyr Llwyd, began working with the group. He wrote several songs especially for them and it soon became evident that the group were developing their own unique style. Ynyr has now become an important part of ‘Enfys’ – as both an accompanist and a songwriter. The name ‘Enfys’ meaning ‘Rainbow’ was chosen for several reasons. Firstly, because there are seven members as there are colours in a rainbow. Similarily, each member’s voice has its own unique musical colour that blends with the other colours to produce a beautiful combination. They’re all strong personalities who enjoy working together and performing all over the country. Recently, the group has been very busy. As well as a full concert schedule they’ve also appeared on S4C programmes such as Wedi 7 and Noson Lawen. With the release of their first two track single on i-tunes, ‘Enfys’ now hope to conquer the airwaves. ‘Dros y d w r’ and ‘Dagrau’ were both written by Ynyr Llwyd to words by his sister, Angharad. Family connections seem to abound within the group as ‘Enfys’ also contains two pairs of sisters.
|
|
|
|
|