Home Gwasanaethau Cerddorol Recordiau Aran
Recordiau Aran PDF Print E-mail
Deunydd o ansawdd wedi'i recordio i'r safon uchaf

Sefydlwyd y label yn 2006 fel ffynhonnell ychwanegol i waith y cynhyrchydd Emyr Rhys.  Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio â nifer o’r artist Cymraeg amlycaf, gan cynnwys:

Band Cory • Band Parc & Dare • Band Beaumaris • Bryn Terfel • Cantorion Teifi • Carreg Lafar • Catatonia • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC • CF1 • Côr Godre’r Aran • Côr Meibion Pontarddulais • Côr Meibion Orffiws Treforus • Côr Meibion Pendyrus • Cor Rhuthun • Cor Seiriol • Gwerinos • Gwyn Evans a Dr Jazz • Hogia Llandegai • Jane Watts • John ac Alun • Osian Ellis • Pigyn Clust • Margaret Williams • Mary Lloyd Davies • Mike Peters • Sarah Louise • Siwan Llynor • Susan Bullock • Trebor Edwards • Yr Anrhefn

 

Mae Recordiau Aran yn cynnig y pecynau canlynol i ddarpar artistiaid :-

 

PECYN 1 - 'Pecyn Recordio Cyflawn'

  • · Recordio ar leoliad neu yn y stiwdio dros 2 ddiwrnod
  • · Peiriannydd Sain a Chynhyrchydd profiadol
  • · golygu a mastro’r deunydd gan ddarparu copi o’r mastr ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • · Cynllunio clawr lliw llawn trwy gynllunydd proffesiynol a darparu proflen ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • · trefnu a thalu am drwydded gan yr MCPS i ryddhau unrhyw gerddoriaeth sydd o dan hawlfraint
  • · dyblygu CD’iau a chloriau lliw llawn
  • · dosbarthu copïau rhad ac am ddim i’r cyfryngau a’r wasg
  • · Neilltuo tudalen we ar ein gwe fan i’r artist gan gynnwys clipiau MP3 o’r record a dolenni i safle’r artist.
  • · cynnig a dosbarthu’r CD gorffenedig i’r siopau
  • · cynnig y CD i’r cyhoedd trwy traciaucymraeg.com a derbyn archebion dros y ffon efo cerdyn credit

Prisiau (cynllun credit dalu dros 6 mis)

  • · 500 o CD’iau –  £3695 + TAW
  • · 1000 o CD’iau - £3995 + TAW
  • · 1500 o CD’iau - £4495 + TAW

Gwasanaethau ychwanegol:-

  • · trefnu a pharatoi traciau cefndir
  • · ychwanegu offerynnau i’r recordiad er mwyn cyfoethogi’r cyfeiliant
  • · diwrnodau ychwanegol ar gyfer recordio

Cysylltwch â  This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it am brisiau.

Record wedi’i pharatoi yn barod?

Neu adnoddau recordio annibynol gennych?

PECYN 2 - 'Ryddhau ar label Aran'

  • · Y pecyn uchod i gyd ond efo’r gwaith recordio/golygu/mastro wedi’i chwblhau yn barod

Prisiau

  • · 500 o CD’iau –  £1695 + TAW
  • · 1000 o CD’iau - £1995 + TAW
  • · 1500 o CD’iau - £2495 + TAW

Dyma’r manteision o ryddhau record trwy Recordiau Aran:-

Mae sawl ffynhonnell o incwm yn bosib wrth ryddhau record masnachol. I fanteisio arnynt i gyd rhaid sicrhau fod pob elfen o’r record a’i deunydd wedi ei gofrestri efo’r mudiadau cywir.

  • Mae Recordiau Aran wedi cofrestri hefo’r PPL (Phonographic Performance Limited). Trwy gyflwyno gwybodaeth catalog iddynt daw taliadau i berfformwyr sy’n gofrestredig efo’r PRC neu PAMRA.
  • Mae Cyhoeddiadau Aran wedi cofrestri hefo’r MCPS a’r PRS. Gallwn sicrhau taliadau i awduron a chyfansoddwyr am eich defnydd yn sgil unrhyw ddarllediad, a gweithio gyda chi i hyrwyddo’r defnydd yma. Gallwn hefyd sicrhau bod unrhyw ddefnydd sydd o dan hawlfraint wedi’i drwyddedu yn iawn a bod pob caniatad yn ei le.
  • Rydym yn hyrwyddo a marchnata ein deunydd trwy’r cyfryngau a’r wasg yn ogystal a thrwy traciaucymraeg.com.
  • Mae pob mastr gan Recordiau Aran yn derbyn côd ISRC (INTERNATIONAL STANDARD RECORDING CODE) sy’n hwyluso gwaith y darlledwyr

PECYN 3 - 'Pecyn Demo'

  • · Diwrnod o waith recordio (ar gyfer chwech neu saith o eitemau)
  • · yn cynnwys defnydd o neuadd clasurol efo piano 'Steinway' grand
  • · cost tiwnio'r piano ar gyfer y sesiwn yn gynwysiedig
  • · golygu a mastro’r deunydd gan ddarparu copi o’r mastr ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • · Cynllunio clawr lliw llawn trwy gynllunydd proffesiynol a darparu proflen ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
Prisiau
  • · 100 o CD’iau –  £1745 + TAW
  • 200 o CD’iau - £1995 + TAW