Home
Plu'r Gweunydd PDF Print E-mail
Siwan Llynor

Rhestr Traciau / Track listing:
Mor o Gariad

Plu'r Gweunydd

Y Caeau Aur

Llongau Caernarfon

Ar lan y mor

Can Gwen

Creu Darlun


Cysga di

Diwrnod braf

Neb o bwys

Y Deryn pur

Ym Mae Ceredigion




Mae’n debyg mai fel actores yr adnabyddir Siwan Llynor yn bennaf. Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae gwylwyr S4C wedi mwynhau dilyn hynt a helynt y cymeriad bywiog Cheryl Gurka yn y gyfres deledu ‘Tipyn o Stad’. Mae Siwan er hynny, eisoes wedi ffilmio ei golygfeydd olaf ar gyfer y gyfres hon er mwyn canolbwyntio ar ei cherddoriaeth a phrosiectau eraill. Man cychwyn y cyfnod newydd yma yn ei gyrfa yw rhyddhau ei record cyntaf ‘Plu’r Gweunydd’ ar label Aran.

Nid yw Siwan Llynor yn enw newydd ym myd y canu. Ymddangosodd yn flaenllaw yn y ddrama gerdd ‘Er Mwyn Yfory’ gan Gwmni Theatr Maldwyn. Cafodd y fraint o ennill Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis am ganu alawon gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod Tra’n y Brifysgol arferai ganu llais cefndir i Mim Twm Llai ac ymddangosodd ei llais ar CD’r band ‘Ysbryd Chouchen’. Cyfansoddwyd y gân ‘Plu’r Gweunydd’ gan Gai Toms (Mim Twm Llai) a Dewi Prysor yn arbennig ar gyfer y record yma.

Mae’r cefndir gwerinol yn amlwg trwy’r casgliad yma: o’r trefniant melfedaidd o ‘Ar Lan y Môr’ gan Nathan Williams i’r ‘Y Deryn Pur’ gan y delynores Carys Owen. Ymddangosai’r delyn eto ar ‘Y Caeau Aur’, cyfieithiad hynod gan Iwan Llwyd o ‘Fields of Gold’. Cyhoeddir y gân yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg trwy ganiatâd personol Sting.

Erbyn hyn mae Siwan yn gweithio i wahanol fudiadau gyda phlant a phobl ifanc ar brosiectau cerdd a drama. Yn dilyn gweithio â merch ifanc ar brosiect drama yn Aberystwyth ysbrydolwyd hi i gyfansoddi ‘Cân Gwen’. Siwan sydd hefyd yn gyfrifol am ‘Creu Darlun’ a ‘Diwrnod Braf’. Maent yn ganeuon gwahanol iawn o ran arddull a naws sy’n dangos dylanwadau amrywiol o’r byd clasurol, opera, gwerin, roc a jazz.

Un o ragoriaethau’r CD hwn a gynhyrchwyd gan Emyr Rhys yw’r cyfoeth offerynnol. Mae cyfraniad y cerddorion; o’r piano, telyn, chwyth i’r gitar o’r safon flaenaf. O’r byd jazz clywir cyfraniadau gan y pianydd adnabyddus Huw Warren ac o Gerddorfa Philarmoneg Lerpwl daw utgorn Rhys Owens i gloi’r record. Cymaint yw’r amrywiaeth a’r dylanwadau gwahanol yn y casgliad hwn fel bod yma rywbeth at ddant pawb!

Am fwy o wybodaeth ewch i www.siwanllynor.co.uk

Siwan Llynor is probably best known for her role as the colourful Cheryl Gurka in the popular S4C drama series ‘Tipyn o Stad’.  However, Siwan has recently filmed her final scenes as Cheryl in order to concentrate on her music and other acting projects. This new stage in her career is marked by the release of her debut CD ‘Plu’r Gweunydd’ on the Aran label.

Siwan’s name is also well known in the musical world. Her  background includes the lead female role in ‘Cwmni Theatr Maldwyn’s’ production of ‘Er Mwyn Yfory’. She was awarded the Lady Herbert Lewis Memorial Prize for her folk signing at the National Eisteddfod in Meifod. Whilst at University she provided backing vocals for Mim Twm Llai and appeared on record for ‘Ysbryd Chouchen’. ‘Plu’r Gweunydd’ was written especially for this album by Gai Toms (Mim Twm Llai) and Dewi Prysor.

Her folk background is evident throughout the album: from the silky arrangement of ‘Ar Lan y Môr’ by Nathan Williams to ‘Y Deryn Pur’ by the harpist Carys Owen. The harp also appears on ‘Y Caeau Aur’, a brilliant translation by Iwan Llwyd of ‘Fields of Gold’; the first time this song has been released in Welsh following permisson from Sting.

Siwan now works for various organisations on music and drama projects with children and young people. It was following a drama project involving a young girl from Aberystwyth that Siwan was inspired to write ‘Cân Gwen’. Other original compositions include ‘Creu Darlun’ and ‘Diwrnod Braf’. These display various influences, from the classical and operatic to folk, rock and jazz.

One of the most striking aspects of this collection is the wealth and variety of instrumentation, produced by Emyr Rhys. The musicians featured are of the highest order, from the jazz piano of Huw Warren to the trumpet of the Liverpool Philharmonic’s own Rhys Owens, which closes this record in such style.

There truly is something for everybody in this eclectic and diverse collection of songs

For more info go to www.siwanllynor.co.uk



Prynwch copi caled / Buy the album via mail order - //
Plu'r gweunydd ARAN512
NEU/OR

Lawrlwythwch traciau neu'r record cyfan / Download individual tracks or the whole album from: