Home
Cilfach PDF Print E-mail
CILFACH - DYDDIAD RHYDDHAU HYDREF 6ed 2008

Canwr ifanc yn Adennill lle’r Piano
Ar y 6ed o Hydref bydd Recordiau Aran yn rhyddhau yr EP gyntaf gan y Canwr a’r Cyfansoddwr - Ynyr Llwyd. Teitl y CD ydy ‘Cilfach’ ac mae’r chwech o ganeuon sydd arni yn dangos ei fedr i gyfansoddi wrth y piano mewn arddull wreiddiol a chyfoes.
“Mae cymaint o fandiau ifanc sydd yn defnyddio gitâr, bas, a drymiau,” meddai Ynyr, ”ond dim cymaint o bianyddion cyfoes sydd yn cyfansoddi caneuon gyda band. Mewn ffordd, dwi’n ceisio codi ymwybyddiaeth yr offeryn, a’i ymestyn tu hwnt i arddulliau clasurol yn unig, sef beth y cysylltir y piano ag ef gan amlaf.”
Ond dychwelyd at y piano mae Ynyr oherwydd fe’i hadnabyddir hyd yn hyn fel gitarydd yn y grŵp ‘Labrinth’.
“Rwyf wedi bod yn cyfansoddi caneuon ers oeddwn i’n ddim o beth, ar biano a gitâr, ond y piano yw’r offeryn agosaf at fy nghalon”.
Roedd ei frawd Rhys yn gyd-aelod o’r band a’i fam yw’r gantores werin a cherdd dant adnabyddus, Leah Owen.
”Rydym yn sicr yn deulu cerddorol ac mae hynny wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd”.
Y mae Ynyr yn cychwyn yn fuan ar ei flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n astudio Cerddoriaeth. Fel rhan o’i astudiaethau bu’n cyfansoddi caneuon i’r grŵp lleisiol ifanc – Enfys. Clywir dwy o aelodau’r grŵp hwnnw ar yr EP, sef Jade Louise Davies a Mared Thomas. Cynhyrchwyd yr EP gan Wyn Pearson sy’n gitarydd sesiwn proffesiynol, yn gyn-enillydd ‘Tlws y Cerddor’ ac yn ffrind personol i’r teulu. Yr offerynwyr eraill yw Matty Roberts ac Emyr Rhys ar ddrymiau a bâs.
Gobaith Ynyr, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau, yw llunio gyrfa i’ddo’i hun yn gwneud gwaith tebyg i hyn.
“Rwy’n teimlo fod lle gwag a chyfle i’r math hwn o gerddoriaeth yn y sîn roc Gymraeg ar hyn o bryd,” meddai.
A pha gerddorion sydd wedi dylanwadau arno fwyaf?
“Ar ôl i mi ddechrau ymddiddori mewn canu a chyfeilio i mi fy hun, rwyf wedi dod i hoffi artistiaid fel Huw Chiswell ac Elton John”. 
Er mwyn clywed un o’r traciau oddi ar yr EP, gallwch wylio fideo o Ynyr yn perfformio trwy fynd i www.youtube.co.uk a theipio enw’r gân ‘Calon ar Glo’.




Ynyr Llwyd – Cilfach
Aran 601
1. Calon ar glo       3.29
2. Rositta 3.47
3. Daw y dydd       3.52
4. Tu ôl dy wen 3.46
5. Fy nefoedd i      4.35
6. Ddim yn ddrwg i gyd 4.11

Ynyr Llwyd : Llais / Piano
Wyn Pearson : Gitar / Rhaglenni
Jade Louise Davies a Mared Thomas : Lleisiau cefndir
Matty Roberts : Drymiau
Emyr Rhys : Bas

Cynhyrchwyd gan Wyn Pearson yn Stiwdio Bryn Môr
Mastro gan Emyr Rhys yn Stiwdio Aran
Clawr gan Charli Britton

Press release

03/0/2008

Young Songwriter re-establishes the role of the piano
On 6th October, Aran Records will be releasing ‘Cilfach’, the debut EP from singer/songwriter Ynyr Llwyd.  The songs on the EP demonstrate his talent to compose original and contemporary material at the piano.
“There are so many young bands using guitar, bass and drums,” says Ynyr, “but hardly any pianists compose in these bands. In a way, I’m trying to raise the profile of the instrument, to extend its use beyond the classical styles it’s usually associated with”.
However, Ynyr is returning to the piano as he is best known as a guitarist with the group “Labrinth”. 
“I’ve been composing songs since I was very young, on piano and guitar, but the piano remains closest to my heart”.
His brother Rhys was also a member of the band, and his mother Leah Owen is an acclaimed folk & penillion singer. 
“I certainly come from a musical family, which has had a great influence on my life”.
Ynyr will soon be returning to Bangor University to complete his final year of studies in Music.  As part of his course, he has composed for the young vocal group – Enfys.  Two members of that group, Jade Louise Davies and Mared Thomas, can be heard on the EP.  The EP was produced by a personal friend, Wyn Pearson, who is a professional session guitarist and a previous winner of the “Musicians’ Medal” at the National Eisteddfod.  The other featured musicians are Matty Roberts and Emyr Rhys on drums and bass.
Once Ynyr has finished his studies, his aim is to continue in this type of work.
“At the moment there is room for this style of music in the Welsh Rock Scene."
And who are his musical influences?
“Since taking an interest in singing and the piano, I have grown to appreciate artists such as Huw Chiswell and Elton John”. 
To hear one of the tracks from the EP, visit www.youtube.co.uk and type in the song’s title ‘Calon ar Glo’.

http://www.myspace.com/ynyrllwyd
http://www.facebook.com/pages/Ynyr-Llwyd/28150684373
http://www.youtube.com/watch?v=G0TjY3GjYPM