|
Mawrth / March 2008
Uno, a mynegi eich hunaniaethFeb 27 2008
by Tudur H. Jones, Yr Herald Cymraeg SUT fuasech chi’n hoffi cael organydd Cadeirlan St Paul, Llundain yn chwarae yn eich priodas? Wel, mae hynny’n berffaith bosib rwan gyda CD newydd o gerddoriaeth Gymreig ar gyfer seremonïau priodasol fydd yn cael ei rhyddhau ar Fawrth 1.
Mae Y Briodas Gymreig (label Aran) yn cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth fyddai’n addas ar gyfer priodasau, yn cael ei chwarae gan organydd Cadeirlan Sant Paul, Huw Williams, a’r delynores werin, Carys Owen.
Gyda’r twf mewn gwasanaethau sifil, a’r dymuniad i bersonoli’r gwasanaethau, mae cryno ddisgiau priodasol wedi dod yn hynod boblogaidd.
“Hwn yw’r CD cyntaf o’i fath i gynnig y cyfle i’r priodfab a’r briodferch fynegi eu hunaniaeth Gymreig,” meddai Emyr Rhys o Recordiau Aran. “Mae’r darnau arni yn cynnwys alawon gwerin i’r delyn mewn trefniadau gan Nansi Richards – Telynores Maldwyn a John Thomas – Pencerdd Gwalia a chyfansoddiadau gwreiddiol i’r organ gan Karl Jenkins a William Mathias.”
Bu Huw Williams, sy’n wreiddiol o Abertawe, yn Ysgolor Organ yng Ngholeg Crist, Caergrawnt cyn astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn yr Iseldiroedd. Fe ddaeth yn Ddirprwy Organydd yng Nghadeirlan Henffordd lle chwaraeodd rhan flaenllaw yn yr enwog ‘Three Choirs Festival’. Ers iddo dderbyn ei swydd bresennol yn 1998, mae’n byw yn Llundain efo’i deulu ifanc, ond mae wedi teithio i’r UDA, Canada a thrwy Ewrop i gynnal datganiadau.
Daw tri darn i’r organ o waith y diweddar William Mathias. Bu’n Bennaeth ar yr Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a’i weithiau eglwysig yn ennyn clod mawr, gan gynnwys darn comisiwn ar gyfer priodas y Tywysog Charles â Diana Spencer.
Yn wreiddiol o Bow Street, ger Aberystwyth, fe astudiodd Carys Owen gerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion. Yn dilyn ei gradd fe barhaodd efo’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ble yr enillodd ei M.A. ar y testun ‘Cerddoriaeth draddodiadol Gymreig’. Ers hynny mae wedi chwarae’r delyn yn broffesiynol, wedi gweithio i Gyngor y Celfyddydau ac erbyn hyn yn gynhyrchydd teledu ar y rhaglen ‘Y Sioe Gelf’. Trwy hyn oll bu’n brysur yn recordio a pherfformio fel aelod o’r grwp gwerin Cymreig - ‘Ogam’.
|